English

Croeso i we-dudalen yr Uned Gyfieithu

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg neu fel arall, a gwasanaeth prawfddarllen testun Cymraeg. Gallwch anfon ychydig o eiriau o destun atom, neu ddogfen hir.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf, cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau isod. Croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth i ddefnyddio’r gwasanaeth neu os ydych chi angen esboniad pellach ar ryw bwynt.

Os ydych yn chwilio am gyfieithiad o deitl neu derm byr efallai bydd Geirfa’r Uned Gyfieithu o gymorth i chi: cliciwch yma.

Cofiwch y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg neu fel arall, i gyfieithu ychydig o eiriau neu ddogfen hir, neu i gael eich testun Cymraeg wedi ei brawfddarllen.

Defnyddio’r Gwasanaeth

Pan fyddwch yn mewngofnodi, bydd gofyn i chi nodi eich manylion personol, manylion y gwaith ac unrhyw wybodaeth bellach.

Bydd gofyn i chi roi enw ar eich ‘project’, sef y gwaith yr ydych yn anfon i’w gyfieithu/ei brawfddarllen. Gall y project gynnwys un ffeil neu fwy nag un ffeil neu ddarn byr iawn o waith.

Gofynnir hefyd am ddyddiad gorffen ‘a ddymunir’. Ceisiwch roi digon o amser i ni brosesu eich gwaith. Os yw’r dyddiad yn rhy fuan, bydd y gweinyddwr yn ei newid.

Ar y dudalen wedyn gofynnir i chi ddewis rhwng llwytho ffeil/ffeiliau i fyny neu deipio neu ludo testun byr mewn blwch. Cofiwch mai dim ond 250 o nodau (tua 50 gair) sy’n mynd yn y blwch. Os yw’r gwaith yn fwy na hynny rhaid ei anfon mewn ffeil.

Cliciwch wedyn ar y botwm Anfon at yr Uned Gyfieithu.

Fe welwch dudalen cofnodion personol yn dangos y gwaith rydych chi wedi ei anfon at yr Uned Gyfieithu mewn gwyn.

Pan fydd y gweinyddwr wedi derbyn eich gwaith ac wedi cadarnhau’r dyddiad dychwelyd bydd y cofnod yn troi’n felyn. Cofiwch ei bod yn bosib y bydd angen newid y dyddiad oherwydd prysurdeb yr uned.

Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod i chi, ac yn gofyn i chi fewngofnodi i’r wefan i lwytho eich gwaith i lawr.

Fe sylwch wrth wneud hynny fod y cofnod wedi troi’n wyrdd. Cliciwch ar y cofnod i’w agor ac fe welwch y gwreiddiol ar y chwith a’r cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y cyfieithiad i'w lwytho i lawr.

Wrth i nifer y cofnodion dyfu bydd y system lliwiau'n ddefnyddiol i chi weld ble mae'r uned arni gyda’ch gwaith, yn enwedig os ydych yn ddefnyddiwr cyson. Cliciwch ar y cofnod i’w agor ac fe welwch y gwreiddiol ar y chwith a’r cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y cyfieithiad i'w lwytho i lawr.

Byddwn yn cadw'r gwreiddiol a’r cyfieithiad ar y gweinydd yn barhaol, o dan enw’r project a’r rhif gwaith. Os byddwch yn colli'r cyfieithiad neu'r gwreiddiol, dim ond angen i chi fewngofnodi i'r wefan sydd, i edrych trwy eich cofnodion i ddod o hyd iddo.

Ymlaen i'r system